142 Mabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Abertawe. PDF 276 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gyflwyno adroddiad, a oedd yn ceisio
cadarnhau canfyddiadau Adroddiad Terfynol yr Arolygwyr ar yr archwiliad ar
Gynllun Datblygu Lleol Abertawe (CDLl), a
mabwysiadu'r CDLl fel y'i diwygiwyd gan y newidiadau
rhwymol priodol fel y cynllun datblygu newydd ar gyfer ardal weinyddol
Abertawe.
Penderfynwyd:
1) Mabwysiadu CDLl Abertawe (Fersiwn Derfynol yn atodiad 2 yr adroddiad -
fel y'i diwygiwyd gan y newidiadau rhwymol a nodwyd yn adroddiad yr arolygwyr),
fel y cynllun datblygu newydd ar gyfer ardal weinyddol Abertawe;
2) Cymeradwyo'r
Datganiad Mabwysiadu (yn atodiad 3 yr adroddiad), Arfarniad Cynaladwyedd
Terfynol (yn atodiad 4 yr adroddiad), Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd gan
gynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf (yn atodiad 5 yr adroddiad) a'r Asesiad
Effaith ar Gydraddoldeb Terfynol (yn atodiad 7 yr adroddiad);
3) Awdurdodi'r
Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas neu swyddog dirprwyedig priodol i wneud
unrhyw ddiwygiadau argraffyddol, gramadegol, cyflwyniadol neu ffeithiol i CDLl Abertawe cyn ei gyhoeddiad terfynol; ac
4) Mae swyddogion
yn ceisio sicrhau, ar rai datblygiadau, ganrannau uwch o dai fforddiadwy na'r
ffigurau targed a nodwyd ym Mholisi H3 ar gyfer ardaloedd tai y gogledd, y
dwyrain a'r gogledd-orllewin ehangach, lle gellir cyfiawnhau hyn, gan ystyried
lefel y cyfyngiadau, y rhwymedigaethau cynllunio a materion perthnasol eraill.