123 mabwysiadu'r cynllun gostyngiad treth y cyngor PDF 147 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn esbonio'r gofyniad i
ystyried yn flynyddol a ddylid diwygio neu ddisodli Cynllun Gostyngiadau Treth
y Cyngor presennol y cyngor a'r gofyniad naill ai i fabwysiadu cynllun newydd
neu ail-fabwysiadu’r cynllun presennol erbyn 31 Ionawr 2019.
Penderfynwyd:
1)
Nodi Rheoliadau Cynlluniau
Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 ("y
Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig") gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (CCC)
ar 26 Tachwedd 2013, fel y'u diwygiwyd;
2)
Nodi'r diwygiadau i'r
"Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig" a gynhwysir yn Rheoliadau
Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun
Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2018 a ystyriwyd ac a gymeradwywyd gan CCC ar 8
Ionawr 2019.
3)
Nodi canlyniad yr ymarfer
ymgynghori a gynhaliwyd gan y cyngor ym mis Tachwedd 2018 ar feysydd dewisol y
cynllun presennol;
4)
Y bydd y cynllun presennol
(2018/2019), mewn perthynas â'r meysydd dewisol (fel y'u nodir yn Adran 3 yr
adroddiad) yn aros yr un peth o 2019/2020;
5)
Mabwysiadu'r cynllun fel y'i nodir
yn Adran 3 yr adroddiad ac adlewyrchu unrhyw ddiwygiadau i'r rheoliadau a wnaed
gan CCC yn y cynllun.
Sylwer: Gofynnodd y Cyng. P M Black y cwestiwn canlynol:
"Mae paragraff 5.2 yr adroddiad yn nodi mai'r diffyg a ragwelir rhwng cyllid
a'r gostyngiad Treth y Cyngor a delir i dderbynwyr yw £1,270k. Sut mae hyn yn
cymharu â blynyddoedd blaenorol?"
Dywedodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid Dros Dro y byddai
ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.