124 FPR7 - Cyfnewidfa Broadway - Grant Cronfa Trafnidiaeth Leol 2018/19 PDF 171 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd adroddiad a oedd yn
cadarnhau’r cais am gyllid ychwanegol o’r Gronfa Trafnidiaeth Leol ac a
geisiodd gymeradwyaeth am wariant ar brosiect Cyfnewidfa Broadway
2018-2019. Roedd yr adroddiad hefyd yn ceisio cydymffurfio â Rheol 7 y
Weithdrefn Ariannol, "Rhaglennu ac Arfarniadau Cyfalaf", i ymrwymo ac
awdurdodi amrywiad i gynllun cyfalaf presennol yn y Rhaglen Gyfalaf.
Penderfynwyd cymeradwyo prosiect Cyfnewidfa Broadway, ynghyd â'i oblygiadau ariannol.