Mater - cyfarfodydd

Rhaglen Ddatblygu - Cyfrif Refeniw Tai - Rhan 1.

Cyfarfod: 21/02/2019 - Y Cabinet (Eitem 164)

164 Rhaglen Ddatblygu - Cyfrif Refeniw Tai - Rhan 1. pdf eicon PDF 154 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gartrefi ac Ynni adroddiad a oedd yn amlinellu'r Rhaglen Ddatblygu newydd ar gyfer cartrefi cyngor newydd a ariennir gan y Cyfrif Refeniw Tai (CRT). Mae'r Rhaglen Ddatblygu yn nodi'r cynlluniau a fydd yn cael eu darparu gan y cyngor, a'r cyfleoedd ar gyfer cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r cynlluniau.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo Rhaglen Ddatblygu'r Cyfrif Refeniw Tai (CRT);

 

2)              Cymeradwyo'r cynlluniau o fewn y Rhaglen Ddatblygu trwy broses adrodd flynyddol Cyllideb Gyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai (CRT).