Mater - cyfarfodydd

Adroddiad Blynyddol Cwynion 2017-18.

Cyfarfod: 17/01/2019 - Y Cabinet (Eitem 134)

134 Adroddiad Blynyddol Cwynion 2017-18. pdf eicon PDF 135 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pwyllgor Busnes, Trawsnewid a Pherfformiad adroddiad er gwybodaeth a adroddodd am nifer, natur a chanlyniadau cwynion a wnaed yn erbyn yr awdurdod, ynghyd â manylion y gwersi a ddysgwyd a syniadau am wella gwasanaethau.  Roedd yr Adroddiad Blynyddol Cwynion Corfforaethol yn cynnwys y canlynol:

 

Ø    Cwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion;

Ø    Cwynion y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd;

Ø    Deddf Rhyddid Gwybodaeth (FOI);

Ø    Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio (RIPA).