136 Tendr ar gyfer darparu gwasanaethau cludiant o'r cartref i'r ysgol (SH 19-24). PDF 141 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau adroddiad a fanylodd ar
ganlyniad tendrau diweddar ar gyfer gwasanaethau prif ffrwd o ran cludiant o'r
cartref i'r ysgol, gan geisio cymeradwyaeth i ddyfarnu contractau. Mae'r
adroddiad yn ceisio cydymffurfio â Rheolau Gweithdrefnau Contractau a galluogi
contractau i gael eu trefnu gyda chontractwyr ac ysgolion a rhieni i gael eu
hysbysu.
Penderfynwyd:
1)
Derbyn prisiau tendro a argymhellwyd gan y Panel
Gwerthuso Tendrau ac a amlinellir yn Atodlen B yr adroddiad fel y tendrau sy'n
sicrhau gwerth gorau i'r cyngor;
2)
Dyfarnu contractau i'r cwmnïau a nodir yn Atodlen B yr
adroddiad.