107 Abertawe Gynaliadwy - yn addas i'r dyfodol: cynigion cyllidebol 2019/20 - 2022/23.* PDF 572 KB
*Gweithdrefn Galw i Mewn - Brys: Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn
Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “naill ai Pennaeth y Gwasanaeth Cyflogedig, y
Swyddog Adran 151 neu'r Swyddog Monitro'n ardystio y gallai unrhyw oedi sy'n
debygol o gael ei achosi gan y weithdrefn galw i mewn wneud niwed i'r cyngor
neu fudd y cyhoedd, gan gynnwys methu cydymffurfio â gofynion statudol".
Cofnodion:
Gweithdrefn Galw i Mewn -
Brys:
Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod
“naill ai Pennaeth y Gwasanaeth Cyflogedig, y Swyddog Adran 151 neu'r Swyddog Monitro'n
ardystio y gallai unrhyw oedi sy'n debygol o gael ei achosi gan y weithdrefn
galw i mewn wneud niwed i'r cyngor neu fudd y cyhoedd, gan gynnwys methu
cydymffurfio â gofynion statudol".
Cyflwynodd Aelod y
Cabinet dros yr Economi a Strategaeth adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth
ar gyfer cynigion cyllidebol 2019/2020 a 2022/23 fel rhan o Strategaeth
Gyllidebol y Cyngor, Abertawe Gynaliadwy - Yn Addas i'r Dyfodol.
Penderfynwyd:
1)
Cymeradwyo'r
cynigion cyllidebol a grynhoir yn yr adroddiad ac y manylir arnynt yn Atodiad A
ac Atodiad C fel sail ymgynghori;
2)
Mabwysiadu
rhagolygon diweddaraf y gyllideb ar gyfer y dyfodol fel y sylfaen cynllunio ar
gyfer cynllun ariannol tymor canolig newydd, a fydd yn cael ei ystyried gan y
cyngor ar 28 Chwefror 2019;
3)
Cytuno
ar yr ymagwedd ymgynghori ac ymgysylltu â staff, undebau llafur, preswylwyr a
phartïon eraill â diddordeb, a amlinellir yn adran 7 yr adroddiad;
4) Cyflwyno adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad a'r cynigion cyllidebol terfynol i'r Cabinet yn ystod ei gyfarfod ar 14 Chwefror 2019.