125 Y Diweddaraf am gynnydd blaenoriaethau'r Adran Addysg ar gyfer 2017-2018. PDF 144 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu
a Sgiliau adroddiad a roddodd y diweddaraf am gynnydd o ran bodloni'r
blaenoriaethau a bennwyd ar gyfer blwyddyn academaidd 2017-2018 a'r blaenoriaethau
amlinellol a bennwyd ar gyfer blwyddyn academaidd 2018-2019.
Penderfynwyd:
1)
Nodi'r
cynnydd.
Sylwer:
A)
Gofynnodd y Cynghorydd A
M Day y cwestiynau canlynol:
"Mae'r pwynt bwled
olaf o dan "Heriau" ar dudalen 27 yr adroddiad yn dweud bod yr awdurdod
mewn perygl o orfod talu costau sylweddol mewn perthynas â lleoliadau
hanesyddol mewn ysgolion annibynnol yn Abertawe. Mae dau gwestiwn:
i)
A oes gan Aelod y
Cabinet unrhyw syniad o'r ffigurau posib o ran y costau hyn?
ii)
A all Aelod y Cabinet
gadarnhau a delir y costau hyn yn ganolog neu o gyllidebau dirprwyedig
ysgolion.
Dywedodd Aelod y Cabinet
dros Addysg, Dysgu a Sgiliau y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.
B)
Gofynnodd y Cynghorydd C
L Philpott y cwestiwn canlynol:
"Faint o bobl yr effeithiwyd arnynt gan gau Brondeg
a lle maen nhw'n mynd yn awr?"
Dywedodd Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.
137 Y Diweddaraf am gynnydd blaenoriaethau'r Adran Addysg ar gyfer 2017-2018. PDF 144 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros Addysg, Dysgu a Sgiliau adroddiad a roddodd yr wybodaeth
ddiweddaraf am gynnydd o ran bodloni'r blaenoriaethau a nodwyd ar gyfer Blwyddyn
Academaidd 2017-2018 a’r blaenoriaethau amlinellol a nodwyd ar gyfer Blwyddyn
Academaidd 2018-2019.
Penderfynwyd:
1)
Nodi'r cynnydd.