Mater - cyfarfodydd

Trefniadau Tâl Crwneriaid.

Cyfarfod: 17/01/2019 - Y Cabinet (Eitem 135)

135 Trefniadau Tâl Crwneriaid. pdf eicon PDF 112 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyfreithiol a'r Rheolwr Adnoddau Dynol Strategol a Datblygiad Sefydliadol adroddiad ar y cyd, a oedd yn ceisio cytundeb i fabwysiadu Fframwaith y Cydbwyllgor Trafod i gynorthwyo'r broses wneud penderfyniadau wrth benderfynu ar gyflog crwneriaid a'i osod.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cytuno ar Fframwaith ac Arweiniad Cyflog y Cydbwyllgor Trafod a'u mabwysiadu at ddibenion gosod cyflog ar gyfer crwneriaid;

 

2)              Gosod lefel cyflog Uwch-grwner Dinas a Sir Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot ar £127,000 cyflog gros;

 

3)              Ôl-ddyddio'r codiad cyflog i 1 Tachwedd 2017 pan gafodd Fframwaith y Cydbwyllgor Trafod ei gyhoeddi;

 

4)              Erys cyfradd ddyddiol y Crwneriaid Cynorthwyol yn £400 y dydd.