Cofnodion:
Cyflwynodd
Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn ystyried mabwysiadau
argymhelliad Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd mewn perthynas â'i adolygiad
o "Lwfansau Band Eang a Ffôn, TGCh a Ffonau
Symudol Cynghorwyr - Mai 2017 a'r Tu Hwnt".
Penderfynwyd:
1)
Ailenwi'r polisi yn
"Bolisi Lwfansau Gwybodaeth, Cyfathrebu a Thechnoleg (TGCh)
Cynghorwyr - Mai 2017 a'r Tu Hwnt" neu "Polisi TGCh
Cynghorwyr - Mai 2017 a'r Tu Hwnt" yn fyr;
2)
Ychwanegu'r nodyn canlynol at
Baragraff 5.3 y polisi:
“1) Cyfanswm Lwfansau TGCh
Cynghorwyr dros gyfnod o 1 mlynedd yw £1,808.
Gellir gwario'r swm hwn ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod 5 mlynedd ar yr
amod bod lwfansau'n cael eu hawlio gan ddefnyddio Ffurflen Hawlio Lwfans TGCh
Cynghorwyr/Aelodau Cyfetholedig, a chyda derbynebau perthnasol.
2)
Rhaid i unrhyw wariant
dros £200 yn ystod blwyddyn derfynol y cyfnod yn y swydd gael ei gymeradwyo
ymlaen llaw gan Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd ar y cyd â'r Prif Swyddog
Trawsnewid. Mae'n bosib y byddant yn edrych
ar atebion dros dro megis darparu dyfeisiau TGCh sy'n
eiddo i'r awdurdod.”
3)
Ychwanegu'r amod canlynol at Baragraff 6.1 y polisi:
“c) Rhaid i gynghorwyr sy'n
derbyn elfen ffôn Lwfans Band Eang a Ffonau'r Cynghorwyr ganiatáu i'w rhif ffôn
gael; ei gyhoeddi ar wefan yr awdurdod a'i hyrwyddo yn ôl yr angen, ac eithrio
mewn amgylchiadau eithriadol.
4)
Ailddrafftio paragraff 6.4 y
polisi er mwyn caniatáu i bob cynghorwr yn yr un aelwyd dderbyn y Taliad Lwfans
Data ond bod yr aelwyd honno'n cael ei chyfyngu i un lwfans band eang;
5)
Ailenwi'r "Lwfans Band
Eang a Ffôn" yn "Lwfans Data a Ffôn";
6)
Diwygio paragraff 7.1 y polisi
fel a ganlyn, gydag ail amod yn cael ei ychwanegu hefyd;
"7.1 Ar hyn o bryd mae'r awdurdod yn talu Lwfans
Ffôn Symudol Cynghorwyr misol i gynghorwyr sy'n gymwys er mwyn cyfrannu at eu
biliau ffôn symudol oherwydd y cynnydd yn y defnydd ohonynt ar gyfer busnes y
cyngor, ar yr amod bod:
a)
Cynghorwyr
yn darparu prawf blynyddol o'u contract ffôn symudol i Swyddfa’r Cabinet/Dîm y
Gwasanaethau Democrataidd.
b)
Cynghorwyr sy'n derbyn
Lwfans Ffôn Symudol Cynghorwyr yn gorfod caniatáu i'w rhif ffôn symudol gael ei
gyhoeddi ar wefan yr awdurdod a'i hyrwyddo fel y bo'r angen ac eithrio mewn
amgylchiadau eithriadol.
7)
Dileu paragraff 7.5 y polisi ac ail-rifo’r adran yn unol
â hyn;
8)
Ychwanegu'r nodyn canlynol at
Baragraff 9.4 y polisi:
“Nodyn:
1)
Cyfanswm lwfansau TGCh Aelodau Cyfetholedig dros gyfnod o 4 blynedd a 6
blynedd yw £6 a £441.60 yn eu tro.
Gellir gwario'r swm hwn ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod 4 i 6 blynedd
ar yr amod yr hawlir lwfansau gan ddefnyddio Ffurflen Gais Lwfans TGCh Aelodau Cyfetholedig a chyda derbynebau perthnasol;
2)
Rhaid i unrhyw wariant dros
£40 yn ystod blwyddyn olaf cyfnod yn y swydd gael ei gymeradwyo ymlaen llaw gan
Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd ar y cyd â'r Prif Swyddog Trawsnewid. Mae'n bosib y byddant yn edrych ar atebion
dros dro megis darparu dyfeisiau TGCh sy'n eiddo i'r
awdurdod.”
9)
Ychwanegu
paragraff 9.7 at y polisi fel a ganlyn:
"9.7 Rhaid i Aelodau
Cyfetholedig sy'n derbyn elfen ffôn y Lwfans Band Eang a Ffôn i Aelodau
Cyfetholedig ganiatáu i'w rhif ffôn gael ei gyhoeddi ar wefan yr awdurdod a'i
hyrwyddo yn ôl yr angen ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol.