Mater - cyfarfodydd

Adolygu Lwfansau Band Eang, Ffonau, TGCh a Ffonau Symudol Cynghorwyr - mis Mai 2017 a'r tu hwnt.

Cyfarfod: 20/09/2018 - Y Cabinet (Eitem 64)

64 Adolygu Lwfansau Band Eang, Ffonau, TGCh a Ffonau Symudol Cynghorwyr - mis Mai 2017 a'r tu hwnt. pdf eicon PDF 227 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn ystyried mabwysiadau argymhelliad Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd mewn perthynas â'i adolygiad o "Lwfansau Band Eang a Ffôn, TGCh a Ffonau Symudol Cynghorwyr - Mai 2017 a'r Tu Hwnt".

 

Penderfynwyd:

 

1)              Ailenwi'r polisi yn "Bolisi Lwfansau Gwybodaeth, Cyfathrebu a Thechnoleg (TGCh) Cynghorwyr - Mai 2017 a'r Tu Hwnt" neu "Polisi TGCh Cynghorwyr - Mai 2017 a'r Tu Hwnt" yn fyr;

 

2)              Ychwanegu'r nodyn canlynol at Baragraff 5.3 y polisi:

 

“1) Cyfanswm Lwfansau TGCh Cynghorwyr dros gyfnod o 1 mlynedd yw £1,808.  Gellir gwario'r swm hwn ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod 5 mlynedd ar yr amod bod lwfansau'n cael eu hawlio gan ddefnyddio Ffurflen Hawlio Lwfans TGCh Cynghorwyr/Aelodau Cyfetholedig, a chyda derbynebau perthnasol.

 

2)              Rhaid i unrhyw wariant dros £200 yn ystod blwyddyn derfynol y cyfnod yn y swydd gael ei gymeradwyo ymlaen llaw gan Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd ar y cyd â'r Prif Swyddog Trawsnewid.  Mae'n bosib y byddant yn edrych ar atebion dros dro megis darparu dyfeisiau TGCh sy'n eiddo i'r awdurdod.”

 

3)              Ychwanegu'r amod canlynol at Baragraff 6.1 y polisi:

 

“c)      Rhaid i gynghorwyr sy'n derbyn elfen ffôn Lwfans Band Eang a Ffonau'r Cynghorwyr ganiatáu i'w rhif ffôn gael; ei gyhoeddi ar wefan yr awdurdod a'i hyrwyddo yn ôl yr angen, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol.

 

4)              Ailddrafftio paragraff 6.4 y polisi er mwyn caniatáu i bob cynghorwr yn yr un aelwyd dderbyn y Taliad Lwfans Data ond bod yr aelwyd honno'n cael ei chyfyngu i un lwfans band eang;

 

5)              Ailenwi'r "Lwfans Band Eang a Ffôn" yn "Lwfans Data a Ffôn";

 

6)              Diwygio paragraff 7.1 y polisi fel a ganlyn, gydag ail amod yn cael ei ychwanegu hefyd;

 

"7.1    Ar hyn o bryd mae'r awdurdod yn talu Lwfans Ffôn Symudol Cynghorwyr misol i gynghorwyr sy'n gymwys er mwyn cyfrannu at eu biliau ffôn symudol oherwydd y cynnydd yn y defnydd ohonynt ar gyfer busnes y cyngor, ar yr amod bod:

 

a)              Cynghorwyr yn darparu prawf blynyddol o'u contract ffôn symudol i Swyddfa’r Cabinet/Dîm y Gwasanaethau Democrataidd.

 

b)              Cynghorwyr sy'n derbyn Lwfans Ffôn Symudol Cynghorwyr yn gorfod caniatáu i'w rhif ffôn symudol gael ei gyhoeddi ar wefan yr awdurdod a'i hyrwyddo fel y bo'r angen ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol.

 

7)              Dileu paragraff 7.5 y polisi ac ail-rifo’r adran yn unol â hyn;

 

8)              Ychwanegu'r nodyn canlynol at Baragraff 9.4 y polisi:

 

“Nodyn:

1)              Cyfanswm lwfansau TGCh Aelodau Cyfetholedig dros gyfnod o 4 blynedd a 6 blynedd yw £6 a £441.60 yn eu tro.  Gellir gwario'r swm hwn ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod 4 i 6 blynedd ar yr amod yr hawlir lwfansau gan ddefnyddio Ffurflen Gais Lwfans TGCh Aelodau Cyfetholedig a chyda derbynebau perthnasol;

 

2)              Rhaid i unrhyw wariant dros £40 yn ystod blwyddyn olaf cyfnod yn y swydd gael ei gymeradwyo ymlaen llaw gan Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd ar y cyd â'r Prif Swyddog Trawsnewid.  Mae'n bosib y byddant yn edrych ar atebion dros dro megis darparu dyfeisiau TGCh sy'n eiddo i'r awdurdod.”

 

9)              Ychwanegu paragraff 9.7 at y polisi fel a ganlyn:

 

"9.7    Rhaid i Aelodau Cyfetholedig sy'n derbyn elfen ffôn y Lwfans Band Eang a Ffôn i Aelodau Cyfetholedig ganiatáu i'w rhif ffôn gael ei gyhoeddi ar wefan yr awdurdod a'i hyrwyddo yn ôl yr angen ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol.