Ethol Dirprwy Arglwydd Faer ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig 2019-2020.
Cofnodion:
Penderfynwyd, o ran cynnig y Cynghorydd Des Thomas, a eiliwyd gan y
Cynghorydd Christine Richards, y dylid ethol Mark Child i swydd Dirprwy
Arglwydd Faer Dinas a Sir Abertawe ar gyfer y flwyddyn ddinesig 2019-2020.
Cafodd Mark Child ei arwisgo â mantell a Chadwyn Swyddogol y Dirprwy
Arglwydd Faer.
Cafodd Mrs Marion Child ei harwisgo â mantell a Chadwyn Swyddogol y Dirprwy
Arglwydd Faeres.
Gwnaeth y Dirprwy Arglwydd Faer y Datganiad Derbyn Swydd a'i lofnodi.