Mater - cyfarfodydd

Canlyniad Ymgynghoriad ar Ofal Preswyl i Bobl Hyn

Cyfarfod: 20/09/2018 - Y Cabinet (Eitem 58)

58 Canlyniad yr ymgynghoriad mewn perthynas â'r adolygiad comisiynu gofal preswyl. pdf eicon PDF 305 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gweithdrefn Galw i Mewn: Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y penderfyniad wedi bod yn destun Craffu Cyn Penderfynu ac ni fu unrhyw newid pwysig i wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”.

 

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Ofal, Iechyd a Heneiddio'n Dda adroddiad a oedd yn crynhoi canlyniadau'r ymgynghoriad diweddar ar yr opsiynau a ffefrir sy'n deillio o'r Adolygiad Comisiynu Gofal Preswyl.  Roedd hefyd yn darparu'r argymhellion terfynol ar sut i symud ymlaen, gan ystyried y canlyniadau a'r Asesiadau Effaith Cydraddoldeb.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Ailganolbwyntio gofal preswyl mewnol y cyngor fel ei fod yn canolbwyntio ar anghenion cymhleth, ailalluogi preswyl a gofal seibiant yn unig;

 

2)              Wrth symud ymlaen, gomisiynu'r holl ofal preswyl ar gyfer anghenion nad ydynt yn gymhleth a gofal nyrsio o'r sector annibynnol;

 

3)              O ganlyniad i'r uchod, cau Cartref Preswyl Parkway gan sicrhau bod yr holl breswylwyr y byddai hyn yn effeithio arnynt yn cael eu cefnogi'n llawn;

 

4)              Cytuno ar dalu ffioedd ychwanegol o hyd at £105 y person yr wythnos i'r holl breswylwyr yn Parkway (gan gynnwys y rhai sy'n ariannu ein hunain), yn amodol ar amgylchiadau unigol ac asesiadau gwaith cymdeithasol, ar gyfer parhad eu lleoliad gofal preswyl os bydd Parkway yn cau yn dilyn y penderfyniad terfynol.