Mater - cyfarfodydd

Mwy o leoedd wedi'u cynllunio yn Ysgol Arbennig Pen-y-bryn

Cyfarfod: 20/09/2018 - Y Cabinet (Eitem 61)

61 Mwy o leoedd wedi'u cynllunio yn Ysgol Arbennig Pen-y-bryn pdf eicon PDF 126 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau a oedd yn amlinellu canlyniad yr ymgynghoriad ac yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer cyhoeddi hysbysiad statudol ar y cynnig i gynyddu'r lleoedd cynlluniedig yn Ysgol Arbennig Pen-y-bryn o fis Ebrill 2019.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo cyhoeddi hysbysiad statudol i gynyddu nifer y lleoedd cynlluniedig yn Ysgol Arbennig Pen-y-bryn o fis Ebrill 2019;

 

2)              Mae'r arian refeniw dirprwyedig ychwanegol i gefnogi sefydlu'r lleoedd cynlluniedig ychwanegol yn Ysgol Arbennig Pen-y-bryn a'r costau cludiant ychwanegol posib sy'n gysylltiedig รข hyn wedi'u cynnwys yn y cyllidebau refeniw addysg cyffredinol presennol a rhai'r dyfodol;

 

3)              Ystyried unrhyw wrthwynebiadau a dderbynnir yn ystod cyfnod yr hysbysiad statudol a phenderfynu ar ganlyniad y cynnig yn eu cyfarfod ar 20 Rhagfyr 2018.