114 Adolygiad o Ysgol Fach - Cynnig i gau Ysgol Gynradd Craig-cefn-parc. PDF 256 KB
*Gweithdrefn Galw i Mewn: Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn
Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y penderfyniad wedi bod yn destun Craffu Cyn
Penderfynu ac ni fu unrhyw newid pwysig i wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Gweithdrefn
Galw i Mewn: Mae’r penderfyniad hwn wedi’i eithrio o Weithdrefn Galw i Mewn yr
awdurdod gan fod “y penderfyniad wedi bod yn destun craffu cyn penderfynu ac ni
fu unrhyw newid pwysig i’r wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”.
Cyflwynwyd
adroddiad gan Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau, a oedd yn
cyflwyno adborth ar ganlyniad yr ymgynghoriad ac yn ceisio cymeradwyaeth ar
gyfer cyhoeddi hysbysiad statudol i gau Ysgol Gynradd Craig-cefn-parc yn
weithredol o 31 Awst 2019.
Penderfynwyd:
1)
Cymeradwyo cyhoeddi hysbysiad
statudol i gau Ysgol Gynradd Craig-cefn-parc yn weithredol o 31 Awst 2019;
2)
Y dylai'r Cabinet ystyried unrhyw wrthwynebiadau a
dderbyniwyd yn ystod cyfnodau'r hysbysiadau statudol a phennu canlyniad y
cynigion yn y cyfarfod ar 21 Mawrth 2019.