Mater - cyfarfodydd

Trefniadaeth Ysgolion sy'n gysylltiedig â Chynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg

Cyfarfod: 20/12/2018 - Y Cabinet (Eitem 115)

115 Trefniadaeth Ysgolion sy'n gysylltiedig â Chynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg pdf eicon PDF 2 MB

*Call In Procedure: This decision is exempt from the Authority’s Call In Procedure as “the decision has been subject to Pre-Decision Scrutiny and there is no material change in relevant information / evidence”.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gweithdrefn Galw i Mewn: Mae’r penderfyniad hwn wedi’i eithrio o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y penderfyniad wedi bod yn destun craffu cyn penderfynu ac ni fu unrhyw newid pwysig i’r wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”.

 

Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau, a oedd yn amlinellu canlyniad yr ymgynghoriadau diweddar gan geisio penderfyniad ynghylch a ddylid trosglwyddo’r tir ger Beacons View a amlinellir yn goch ar y cynllun a ychwanegir at Atodiad G, "Y Tir ger Beacons View", o'r Cyfrif Refeniw Tai i Addysg.

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo cyhoeddi hysbysiad statudol i adleoli Ysgol Gynradd Gymraeg Tan-y-lan, cynyddu nifer y lleoedd a gwella’r cyfleusterau;

 

2)              Cymeradwyo cyhoeddi hysbysiad statudol i adleoli Ysgol Gynradd Gymraeg Tirdeunaw, cynyddu nifer y lleoedd a gwella’r cyfleusterau;

 

3)              Cymeradwyo cyhoeddi hysbysiad statudol i gau Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre’n weithredol o 31 Awst 2019;

 

4)              Cymeradwyo newidiadau yn nalgylchoedd ysgolion cynradd ac uwchradd Cymraeg sy'n angenrheidiol er mwyn adlewyrchu'r newidiadau uchod;

 

5)              Y dylai'r Cabinet ystyried unrhyw wrthwynebiadau a dderbyniwyd yn ystod cyfnodau'r hysbysiadau statudol a phennu canlyniad y cynigion yn y cyfarfod ar 21 Mawrth 2019;

 

6)              Bod y Cabinet yn nodi nad oes angen y tir ger Beacons View a amlinellir ar y cynllun yn Atodiad G yr adroddiad mwyach, a’i fod yn cymeradwyo ei adfeddu at ddibenion addysg o dan Adran 122 Deddf Llywodraeth Leol 1972, sef ar gyfer adeiladu ysgol gynradd newydd.

 

Sylwer: Gadawodd y Cynghorydd R C Stewart (Cadeirydd) y cyfarfod.

 

Bu’r Cynghorydd C E Lloyd (Is-gadeirydd) yn llywyddu