Manylion y penderfyniad

Chair of the Joint Committee and Directors from each Council

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Craffu - Grŵp Cynghorwyr Craffu Partneriaeth

Statws: Argymhellion wedi'u Cymeradwyo

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

Mae'r cytundeb cyfreithiol yn nodi y dylai’r holl gyfarwyddwyr addysg o bob un o'r cynghorau fod yn bresennol gyda'i gilydd a dylai cadeirydd y cyd-bwyllgor fod yn bresennol, o leiaf unwaith y flwyddyn.  Er mwyn ceisio sicrwydd ac ystyried a yw Partneriaeth yn gweithredu yn unol â'r cytundeb cyfreithiol, ei chynllun busnes a bod ei amserlen yn cael ei rheoli'n effeithiol gwnaed y canlynol:

 

1.     Rhoddodd Cadeirydd Cyd-bwyllgor Partneriaeth ei farn ar sut mae pethau’n mynd yn eu blaen. Croesawodd grŵp y cynghorwyr Glynog Davies. 

 

Yna, amlinellodd ei farn fel a ganlyn:

·       Mae angen arweinyddiaeth gref ar draws y rhanbarth ac rydym yn gwerthfawrogi'r rhaglen hon a hyrwyddo'r gwaith hwn. Byddwn yn annog pob ymarferwr i ymwneud ag un o'r rhaglenni hyn.

·       Mae’n bwysig sylweddoli bod Partneriaeth yn dal yn gymharol newydd ac ar daith. 

·       Rwy’n hapus ac yn hyderus bod yr hyn sy’n digwydd yn cyd-fynd â’r cynllun busnes a’r cytundeb cyfreithiol a’i fod yn atgyfnerthu’r cysylltiadau rhwng y tri chyngor.

 

Gofynnodd grŵp y cynghorwyr:

·       A ydym yn mynd ag athrawon gyda ni ar y daith hon i gyflwyno’r cwricwlwm newydd?

­   Dywedodd y Cynghorydd Davies ei fod yn gwricwlwm diddorol iawn, ond yn y gorffennol rhoddwyd cynllun i athrawon ei ddilyn. Mae mor wahanol yn awr, ond rwy’n cael adroddiadau rhagorol.

­   Dywedodd Gareth Morgans (Sir Benfro) ei fod yn cael adborth rheolaidd oherwydd y berthynas waith agos rhwng ei swyddogion a swyddogion Partneriaeth. Mae hyn wedi datblygu dros y ddwy flynedd ddiwethaf a chanlyniad hyn yw bod y ddarpariaeth yn llawer mwy pwrpasol ac yn llawer mwy perthnasol i ysgolion unigol.

­   Helen Morgan Rees (Cyfarwyddwr Arweiniol).  Mae hefyd yn bwysig cydnabod bod Partneriaeth yn addasu i ofynion ac anghenion lleol.

­   Ian Altman (Swyddog Arweiniol).  Bu symudiad yn awr o gymorth lefel uchel i ddull mwy pwrpasol i ddiwallu anghenion ysgolion unigol ac mae hefyd yn ymwneud â’r math o gymorth sydd ar gael i athrawon a’r math a’r lefel gywir ohono.

·       Beth yw’r prif wahaniaeth rhwng sut mae Partneriaeth yn gweithredu nawr a sut yr oedd y bartneriaeth flaenorol yn gweithredu?  Clywodd y grŵp fel a ganlyn:

­    Mae’n broses llawer mwy cydweithredol.

­   Mae maint y sefydliad bellach yn llawer llai sy'n ei wneud yn llawer haws i'w reoli.

­   Mae'r sefydliad yn gwrando ar randdeiliaid ac, yn bwysig, yn ymateb yn bwrpasol.

­    Mae’n addasu ac yn newid i ddiwallu’r angen lleol.

­   Ceir sgyrsiau anffurfiol a ffurfiol gyda’r cyfarwyddwyr bob mis.

­   Mae’n agored, yn dryloyw ac yn barod i ymateb.

­   Glynir at y cytundeb cyfreithiol a’r cynllun busnes.

­   Mae ein hathrawon a’n harweinwyr wedi gwir werthfawrogi canolbwyntio ar ddilyniant sgiliau disgyblion ac mae cael yr arbenigedd hwnnw o fewn Partneriaeth, hy canolbwyntio’n benodol ar lythrennedd, rhifedd, gwyddoniaeth, ac ati, wedi magu hyder gwirioneddol ar draws y system ac mae hynny’n cael ei werthfawrogi’n fawr. Wrth gwrs, mae addysgu da yn cefnogi cwricwlwm da ac mae’r rhaglen ‘addysgu â phwrpas’ wedi bod yn llwyddiannus iawn o ran dychwelyd i’r pethau sylfaenol gan wneud yn siŵr bod addysgeg dda yn arwain at gynnydd da gan ddisgyblion. Mae'r rhaglen wedi bod o gymorth mawr i ymarferwyr fyfyrio ar eu hymarfer ac i adeiladu arno.  Mae’r gefnogaeth i ysgolion uwchradd wedi’i hatgyfnerthu ymhellach ac wedi’i theilwra ymhellach ac mae’n fwy pwrpasol fyth.

 

2.     Gofynnwyd i gyfarwyddwyr unigol pob awdurdod lleol roi eu barn ar sut mae pethau yn mynd eu blaen o ran eu cyngor hwythau, beth yw’r heriau allweddol y maent yn eu hwynebu, a gofynnwyd am sicrwydd gan bob cyngor eu bod yn credu bod Partneriaeth yn gweithredu yn unol â’r cytundeb cyfreithiol, ei gynllun busnes a bod ei amserlen yn cael ei rheoli'n effeithiol.

 

Gareth Morgan – Cyfarwyddwr Addysg Sir Gaerfyrddin

·       Mae ystod eang o gyrsiau'n cael eu cyflwyno. Mae’r heriau’n ymwneud â chyllid rhai ysgolion neu’r gallu i gael staff cyflenwi er mwyn rhyddhau ymarferwyr fel bod modd iddynt fynychu’r digwyddiadau.

·       Cafwyd digwyddiad ymarfer ar y cyd ac mae un arall wedi'i gynllunio ar gyfer y flwyddyn i ddod.

·       Cafwyd trafodaethau rheolaidd â chyfarwyddwyr.

·       Gall Partneriaeth fod o fudd a gall helpu awdurdodau lleol unigol i gyflawni eu hamcanion.

·       Ymchwil – gwaith da yn y maes hwn i gefnogi ein dysgwyr, mae’n bwysig rhannu’r arfer da hwnnw.

·       Mae darpariaeth leol yn cael ei thrafod; rydym i gyd yn gweithio'n agos gyda'n gilydd.

·       Rwy’n gadarnhaol ynglŷn â ble mae’r arian yn cael ei wario a’i fod yn dryloyw.

 

Helen Morgan Rees, Cyfarwyddwr Addysg Abertawe

·       Ategaf yr hyn y mae Gareth wedi’i ddweud a byddwn yn amlinellu rhai meysydd cyffredinol i’w gwella

­   Ni ddylai’r adran Adnoddau Dynol ddefnyddio brand Partneriaeth yn ddiangen

­   Llai o theori i alluogi athrawon i wneud pethau ymarferol yn yr ystafell ddosbarth sydd o ddefnydd ac o werth i athrawon.

­   Rhaid i’r gwaith o ddatblygu arweinwyr y dyfodol o ansawdd uchel barhau fel elfen hanfodol ar gyfer cefnogi ein hysgolion yn y dyfodol.

­   Mae Swyddogion Gwella Ysgolion yn yr awdurdodau lleol hefyd wedi bod yn allweddol o ran gallu gwella cymorth ar gyfer addysgu a dysgu yn ein hysgolion.

Dyddiad cyhoeddi: 06/08/2024

Dyddiad y penderfyniad: 24/06/2024

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 24/06/2024 - Craffu - Grŵp Cynghorwyr Craffu Partneriaeth

Dogfennau Cefnogol: